Ymateb Mudiad Meithrin i Ymchwiliad Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’r Fframwaith Deddfwriaethol sy’n Cefnogi Darpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Enw: |
Angharad Morgan |
Sefydliad (lle bo’n berthnasol): |
Mudiad Meithrin |
Rôl: |
Rheolwr Polisi |
E-bost: |
|
Cyfeiriad: |
Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Integredig, Boulevard St Brieuc, Aberystwyth. SY23 1PD. |
Mae Mudiad Meithrin yn gymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg. Ein nod yw creu siaradwyr Cymraeg newydd, ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg i bob plentyn, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i ddatblygu gwasanaethau newydd.
Ers 1971 rydym wedi tyfu’n aruthrol. Erbyn heddiw mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’, sesiynau ‘Clwb Cwtsh’ a Meithrinfeydd dan faner y Mudiad Meithrin sydd yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i tua 22,000 o blant bob wythnos.
Rydyn ni wedi cymhwyso dros 3500 o unigolion yn uniongyrchol i’n gweithlu cyfrwng Cymraeg gyda chymwysterau Gofal Plant, a hynny drwy ein Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a’r Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam. Mae’r Mudiad yn ganolfan wedi ei hachredu a’i hadnabod gan WJEC a City and Guilds yn ogystal â CACHE ar gyfer darparu yr ystod lawn o gymwysterau ôl-14 ac ôl-16.
Hefyd, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref, trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant neu ddechrau dysgu Cymraeg. Rydym yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y Cylchoedd a’r meithrinfeydd. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft cefnogaeth fusnes, cymwysterau a recriwtio staff, hybu arfer da, hyfforddiant staff a chyd-weithio ag Awdurdodau Lleol.
Ymateb Mudiad Meithrin
1.1. Mae Mudiad Meithrin yn teimlo bod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi gwella ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg yn Rhagfyr 2015. Nodwn fod yr Adolygiad Brys o’r CSGA i Fwrdd Cynghori CSGA Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2017 hefyd wedi cyfrannu at symud y fframwaith deddfwriaethol perthnasol ymlaen.
1.2. Mae ymestyn cyfnod gweithredu’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i 10 mlynedd yn esiampl o welliant. Mae hyn yn galluogi cynllunio mwy ystyrlon ac yn galluogi’r gwahanol rhanddeiliaid i weithredu a mesur effaith eu gwaith ar lawr gwlad.
1.3. Rydym yn croesawu cynnwys targedau penodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar fel rhan o’r CSGAu 2022-2032. Mae hyn yn rhoi ffocws penodol ar gyfer cynyddu nifer y plant 3 a 5 oed sydd yn derbyn addysg Gymraeg ac yn golygu fod mwy o bwysau ar gyd-gynllunio strategol rhwng partneriaid perthnasol e.e. Awdirdodau Lleol a Mudiad Meithrin.
1.4. Er hynny, rhaid nodi nad yw hi bob amser yn glir beth yw’r targedau a’r deilliannau meintiol sydd yn rhan o CSGAu 2022-2032 o edrych ar y darlun mawr yn genedlaethol.
1.5. Rydym wedi gweld gwelliannau mewn cyd-gynllunio darpariaethau mewn rhai awdurdodau lleol ers i Mudiad Meithrin gael ei henwi yn y Canllawiau ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg[1]. Mae hyn yn dangos newid diwylliannol mewn nifer o awdurdodau lleol.
1.6. Yr her i ni fel mudiad cenedlaethol yw’r diffyg eglurdeb ar y darlun mawr sy’n deillio o weithredu’r CSGAu. Er bod y 22 CSGA unigol yn galluogi cyd-ddatblygu a chyd-gynllunio ar lefel leol, byddai sefydlu grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol gyda chynrychiolaeth ar draws nifer o sefydliadau megis Comisiynydd y Gymraeg, partneriaid Cwlwm, yr awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Estyn ac AGC, Comisiynydd Plant yn hwyluso trafodaethau ar y darlun mawr a’r targedau ambarél genedlaethol.
1.7. Byddai grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol yn ei gwneud yn haws i sefydliadau cenedlaethol fel y Mudiad Meithrin i fedru blaen gynllunio gan ddeall ble mae’r buddsoddiadau cyfalaf a refeniw yn digwydd ar draws Cymru.
2.1. Un o nodau allweddol strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw creu system addysg statudol sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus. Nodwn yr angen i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin sgiliau Cymraeg yn yr ysgol a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.
2.2. Mae’r system addysg statudol a’r sector nas-cynhelir yn allweddol i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae targedau'r Awdurdodau Lleol yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn greiddiol i hyn.
2.3. Ni allwn or-ddweud pwysigrwydd cyd-weithio gyda Mudiad Meithrin a mudiadau eraill Cwlwm er mwyn cynllunio i sicrhau darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, o fewn cyrraedd hwylus i bob cymuned yng Nghymru, i wireddu’r nod o greu a chynyddu’r galw am addysg statudol cyfrwng Cymraeg yn ein holl gymunedau.
2.4. Gofal plant ac addysg gynnar yw’r cam cyntaf yn nhaith addysg pob plentyn. Byddai normaleiddio a phrif-ffrydio argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru yn ffordd o sicrhau’r cam cyntaf pwysig hyn. Bydd angen ystyriaeth benodol i sicrhau ehangu a chynyddu canran y llefydd ac argaeledd darpariaeth Cymraeg o fewn cynlluniau penodol (e.e. elfen gofal plant Dechrau’n Deg) i lefelau sydd yn cyd-fynd a’r targedau a osodwyd ar gyfer y nifer / % o blant sydd yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer deilliannau 1, 2 a 3 Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022 - 2032.
2.5. Nodwn yr angen i gryfhau ac ymestyn a chryfhau’r cynllun sabothol, ac annog defnydd cyrsiau Cymraeg Cynnar / Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn annog datblygiad sgiliau Cymraeg y staff presennol. Rhaid magu hyder y staff i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig cyflwyno elfennau o’r cwricwlwm neu wersi penodol drwy gyfrwng yr iaith. Mae angen sicrhau bod y cyfleoedd hyn ddim yn effeithio ar allu unigolion i gadw eu swyddi, a bod cyfleoedd penodol iddynt hyfforddi tra’n gweithio dros gyfnod o amser.
3.1. Gan ei fod yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a bod y cynlluniau hyn yn greiddiol i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr bydd rhaid sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn croesgyfeirio’r categorïau ieithyddol newydd i’r dogfennau statudol hynny ac yn cyd-gynllunio.
3.2. Mae Mudiad Meithrin yn cydnabod bod categoreiddio ysgolion yn fater cymhleth, ac rydym yn croesawu’r ymdrech diweddar gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu un system gyson ar draws Cymru gyda chyhoeddiad y Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraegyn 2021. Nodwyd gan y Gweinidog Addysg yr angen iddynt fod yn ganllawiau statudol, a byddai hynny yn rhoi sylfaen mwy cadarn i’r cynnwys. Er hynny, mae gennym bryder maicyfundrefn anstatudol yw’r canllawiau categoreiddio hyn. Croesawn nod y polisi o gynyddu darpariaeth Gymraeg ysgolion Cymru, ac i hwyluso'r broses o symud i fyny’r categorïau ieithyddol. Heb gymhelliannau clir, adnoddau a chyfarwyddyd pendant, ni fydd y nod hon yn cael ei wireddu.
3.3. Nodwn bwysigrwydd cyd-weithio gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau nad yw’r system o gategoreiddio ysgolion yn cael effaith andwyol ar y ffordd y maent yn creu’r galw am addysg Gymraeg, yn enwedig wrth bontio ar ddechrau’r cyfnodau allweddol. Mae hyn yn agwedd greiddiol o gyd-weithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu’r ddarpariaeth gofal ac addysg Gymraeg (nid dwyieithog) yn y sector nas cynhelir. Ni allwn or-ddweud pwysigrwydd cyd-weithio gyda Mudiad Meithrin a Cwlwm er mwyn cynllunio i sicrhau darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, o fewn cyrraedd hwylus i bob cymuned yng Nghymru, i wireddu’r nod o greu a chynyddu’r galw am addysg statudol cyfrwng Cymraeg yn ein cymunedau.
3.4. Mae angen sicrhau bod y systemau ar gyfer gwneud newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas â chategorïau ieithyddol ysgolion gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol o dan Adran 42 y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (2013) yn eglur. Dylid ystyried cynnig canllawiau syml i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol sydd yn amlygu ac yn esbonio sut y mae cyfrwng iaith addysg ysgolion yn cyfrannu a'r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Dylid hefyd ystyried nodi sut y gall newid categori ieithyddol ysgol gefnogi neu yn tanseilio’r targedau y noder eisoes yn CSCA’r awdurdod lleol.
3.5. Mae perthynas waith rhwng Mudiad Meithrin a’r Awdurdodau Lleol ar lefel strategol a lefel swyddogion yn amrywio ar draws y wlad. Pan mae cyd-gynllunio strategol yn digwydd o ddechrau unrhyw ddatblygiad mewn addysg Gymraeg e.e. Ysgol cyfrwng Cymraeg newydd, mae’n galluogi ein cynllun Sefydlu a Symud i gydweithio i sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael ar y safle er mwyn paratoi plant ar gyfer yr Ysgol trwy eu trochi yn y Gymraeg ac i gynnig gofal cofleidiol i blant dosbarth Meithrin. Mae hyn yn ymateb i ofynion rhieni sydd yn gweithio ac yn galluogi’r Ysgol Gymraeg i gystadlu gydag Ysgolion cyfrwng Saesneg yn yr ardal. Mae perthynas waith agos hefyd yn sicrhau ein bod ni yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn amserlen y cynllun ac yn gallu addasu ein cynlluniau ni i gyd-fynd gyda’r newidiadau.
4.1. Ni allwn or-ddweud pwysigrwydd sicrhau bod y disgrifiadau o’r allbynnau ieithyddol disgwyliedig ar gyfer y Gymraeg yn glir ac yn ddealladwy i’r holl randdeiliaid. Rhaid bod y disgrifiadau yn ei gwneud yn glir beth fyddai gallu Cymraeg disgwyliedig y plant ar ddiwedd eu cyfnod yn ysgol neu’r lleoliad penodol. Mae hyn yn hollbwysig mewn ysgolion dwy ffrwd, ble mae angen sicrhau bod y rhieni yn deall beth yw’r gwahaniaethau ar gyfer y gallu hwn ar gyfer plant sydd yn derbyn eu haddysg yn y ddwy ffrwd. Nodwn hefyd yr angen i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn deall y gwahaniaeth rhwng addysg drochi i blant sydd yn dod o aelwydydd ble na siaredir y Gymraeg, a dysgu Cymraeg mewn gwersi ffurfiol.
4.2. Cydnabyddwn bod patrymau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog yng Nghymru yn amrywio o ardal i ardal, a bod nifer sylweddol o’r amrywiadau hyn yn adlewyrchu patrymau defnydd y Gymraeg yn y gymuned ehangach. Rhaid bod ein systemau gofal ac addysg yn ddigon hyblyg i allu adlewyrchu nodweddion ieithyddol unigryw cymunedau Cymru, serch hynny, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau cynllunio addysg ar sail dealltwriaeth glir a chyson o ddeilliannau ieithyddol y dysgwyr.
4.3. Rhaid bydd sicrhau bod yna ddisgrifiad clir a chyson o ‘addysg drochi’ ac ‘addysg cyfrwng Cymraeg’ yn cael ei ddefnyddio ar draws polisïau Llywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei gyfathrebu gyda rhanddeiliaid mewn nifer o sectorau gan gynnwys addysg, iechyd a’r blynyddoedd cynnar yn y cyfnod cyn y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig.
4.4. Bydd angen cynnal awdit sgiliau Cymraeg ar gyfer holl staff sydd yn gweithio ac yn cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg a gofal blynyddoedd cynnar, nid yn unig athrawon. Dyma fydd yn rhoi cyfle i adnabod ble mae’r gallu i weithio yn y Gymraeg, a ble mae angen buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn galluogi staff i wneud hyn.
4.5. Nid yw’r her recriwtio ymarferwyr i weithio yn y sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn un newydd. Mae sicrhau cyflenwad digonol o ymarferwyr sydd yn meddu ar y sgiliau proffesiynol angenrheidiol ynghyd â sgiliau Cymraeg o’r safon uchaf posib i’r gweithlu Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Chwarae yn greiddiol i ddarpariaeth ddigonol o leoliadau a llefydd cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, yn ogystal â’r gweithlu ysgolion angenrheidiol. Rhaid sicrhau cynllunio er mwyn peidio â cholli momentwm o’r groesffordd dyngedfennol hon.
4.6. Nodwn yr angen hefyd i sicrhau cyfleoedd priodol i fyfyrwyr ôl-16 sydd am weithio yn y sector gofal ac addysg i ddatblygu’r sgiliau Cymraeg angenrheidiol ochr-yn-ochr ag astudio ar gyfer eu cymwysterau galwedigaethol. Un rhan o hyn yw sicrhau bod yna gyfleoedd i unigolion ddilyn y cyrsiau galwedigaethol perthnasol trwy gyfrwng y Gymraeg, o fewn pellter rhesymol i’w cartref.
4.7. Er mwyn gwireddu hyn, byddai angen sicrhau bod yna gyfleoedd i unigolyn ddilyn cyrsiau galwedigaethol perthnasol ac ystyrlon trwy gyfrwng y Gymraeg, ar y cyd gyda chyfleoedd i aelodau presennol y gweithlu i ddatblygu ac i gryfhau eu sgiliau Cymraeg. Awgrymwn y dylid mynnu fod elfen asesiad llafar y cyrsiau galwedigaethol hyn yn digwydd yn Gymraeg er mwyn sicrhau bod gan aelodau newydd o’r gweithlu'r sgiliau sylfaenol angenrheidiol.
4.8. Mae Mudiad Meithrin yn barod i gynorthwyo ac i gefnogi strategaethau lleol a chenedlaethol yn y maes hwn. Mae Mudiad Meithrin ers 2004 yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr eraill i ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol sy’n eu galluogi i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes gofal plant ac addysg gynnar. Rydym yn cyd-weithio gydag ysgolion a cholegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr 14 - 19 oed; darparwn gyfleoedd brentisiaeth drwy ein Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol, ac mae sawl model gwahanol o gydweithio yn bodoli gyda darparwyr a sefydliadau eraill er mwyn cynnig cyfleoedd i'r gweithlu a staff y Mudiad ei hun er mwyn cymhwyso, uwchsgilio a dysgu.
4.9. Mae angen sicrhau buddsoddiad er mwyn medru cynyddu’r niferoedd sydd yn cymhwyso ar lefel 3 ac ar lefel 5. Er mwyn goresgyn yr heriau recriwtio yn y sector, mae angen i ni ddatblygu a gweithredu cynllun hyfforddi cenedlaethol fydd yn sicrhau recriwtio niferoedd sylweddol o ymarferwyr i'r gweithlu dros y blynyddoedd nesaf.
4.10. Mewn egwyddor, cytunwn fod angen parhau i feithrin a datblygu perthynas gwaith cryf rhwng Mudiad Meithrin a’r Awdurdodau Lleol. Dyma fydd y ffordd orau i alluogi cynllunio strategol a sicrhau datblygu darpariaethau cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg sydd yn lleol, ac mewn cyrraedd hwylus i bob plentyn a’i deulu.
4.11. Yn atodol, nodwn yr angen i sicrhau bod y sector Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Chwarae yn ei ehangder yn cael ei gynnwys mewn unrhyw drafodaethau am ddatblygu darpariaethau lleol. Bydd hyn yn sicrhau bod cynlluniau datblygu'r sefydliadau unigol yn cyd-fynd gyda’r weledigaeth leol a chenedlaethol yn y tymor hir.
4.12. Yn ategol, nodwn yr angen i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd a gwasanaethau arbenigol. Cynigiwn yr angen i flaenoriaethu hyn, er mwyn medru darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg rhagweithiol ar draws y sector cyhoeddus ehangach ac mewn busnesau eraill. Nodwn yma'r angen i sicrhau datblygu sgiliau Cymraeg staff presennol nifer o wasanaethau cefnogol, megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Plant ac Ieuenctid yn gydamserol ag unrhyw gynlluniau i gynyddu capasiti a darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd y gwahanol gyfnodau addysg.
4.13. Bydd angen sicrhau bod y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig yn adeiladu ar gynnwys y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
4.14. Rhaid hefyd ystyried effaith datblygiadau penodol sydd yn digwydd yn sgil y cytundeb cyd-weithio rhwng y Blaid Lafur a Plaid Cymru megis ehangu cynllun Dechrau’n Deg i bob plentyn 2 oed yng Nghymru. Mae angen sicrhau alinio’r datblygiadau hyn gyda datblygiadau eraill y CSGAu yn lleol ac yn genedlaethol.
4.15. Mae angen eglurdeb o ran beth fydd statws y CSGAu presennol o fewn cyfundrefn y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig.
4.16. A fydd targedau Cymraeg 2050 yn arwain targedau polisïau addysg yng Nghymru fel targedau statudol? Er bod hwn yn gwestiwn i Lywodraeth Cymru, fe fyddai angen buddsoddiad cyfalaf a refeniw sylweddol er mwyn ei wireddu’n llawn. I ddatblygu a sefydlu darpariaethau newydd, a datblygu gyrfaoedd yr holl ymarferwyr yn y maes.
4.17. Mae angen ystyried datblygu a gweithredu cynlluniau arloesol sydd yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gymuned, megis grantiau cymunedol diweddar Cyngor Sir Casnewydd oedd yn cynnig cyfle i deuluoedd flasu darpariaeth cyfrwng Cymraeg am ddim drwy system talebau. Bu’n gynllun llwyddiannus, serch hynny, mae angen ystyried anghenion ariannol y math yma o ymgyrch er mwyn medru ei weithredu fel cynllun cenedlaethol.